Defnyddio SC3: Rolau a chaniatâd
Yn eich sefydliad, efallai y bydd un grŵp neu sawl grŵp sy’n cyhoeddi setiau data. Mae pob set ddata yn StatsCymru yn perthyn i un grŵp penodol yn unig.
Gan ddibynnu ar eich rôl yn eich sefydliad, pan fyddwch yn cael eich ychwanegu i’r system, byddwch yn:
- cael eich ychwanegu i grŵp neu grwpiau
- cael rolau wedi’u neilltuo i bob grŵp y byddwch yn cael eich ychwanegu iddo
Mae’r 3 rôl o fewn StatsCymru fel a ganlyn:
- golygydd
- cymeradwywr
- gweinyddwr gwasanaeth
Gallwch gael mwy nag un rôl o fewn grŵp, a gwahanol rolau ar draws grwpiau. Er enghraifft, gallech fod yn olygydd yn unig mewn un grŵp, ond yn olygydd ac yn gymeradwywr mewn un arall.
Rheolaeth grŵp
| Caniatâd | Golygydd | Cymeradwywr | Gweinyddwr gwasanaeth |
|---|---|---|---|
| Gweld rhestr o’r holl grwpiau ar draws y gwasanaeth | Nac oes | Nac oes | Oes |
| Creu grwpiau | Nac oes | Nac oes | Oes |
| Diweddaru grwpiau, er enghraifft newid enw grŵp | Nac oes | Nac oes | Oes |
Setiau data
Mae’r caniatâd hwn yn berthnasol i’r setiau data mewn grŵp penodol yn unig.
| Caniatâd | Golygydd | Cymeradwywr | Gweinyddwr gwasanaeth |
|---|---|---|---|
| Gweld setiau data a gyhoeddwyd | Oes | Oes | Oes |
| Gweld setiau data heb eu cyhoeddi | Oes | Oes | Nac oes |
| Creu setiau data newydd | Oes | Nac oes | Nac oes |
| Golygu neu ddiweddaru setiau data presennol | Oes | Nac oes | Nac oes |
| Cyflwyno setiau data i’w cymeradwyo | Oes | Nac oes | Nac oes |
| Cymeradwyo setiau data i’w cyhoeddi ar ddyddiadau a drefnwyd | Nac oes | Oes | Nac oes |
| Gofyn bod setiau data yn cael eu dadgyhoeddi dros dro er mwyn eu trwsio | Oes | Oes | Nac oes |
| Dadgyhoeddi setiau data dros dro, tra eu bod yn cael eu trwsio | Nac oes | Oes | Nac oes |
| Gofyn bod setiau data yn cael eu labelu fel rhai wedi'u harchifo | Oes | Oes | Nac oes |
| Labelu setiau data fel rhai wedi’u harchifo | Nac oes | Oes | Nac oes |
| Symud setiau data rhwng grwpiau yr ydych chi ynddynt | Nac oes | Oes | Nac oes |
Rheoli defnyddwyr
| Caniatâd | Golygydd | Cymeradwywr | Gweinyddwr gwasanaeth |
|---|---|---|---|
| Ychwanegu defnyddwyr | Nac oes | Nac oes | Oes |
| Gosod pa grwpiau y mae defnyddwyr ynddynt | Nac oes | Nac oes | Oes |
| Gosod pa rolau sydd gan ddefnyddwyr mewn grwpiau penodol | Nac oes | Nac oes | Oes |
| Analluogi defnyddwyr | Nac oes | Nac oes | Oes |