Defnyddio SC3: Diweddaru set ddata

Data

O’ch sgrin hafan, dewiswch y set ddata y mae angen i chi ei diweddaru. Ar y sgrin nesaf, dewiswch ‘Diweddaru’r set ddata hon’.

Gan ddefnyddio eich tabl data diweddariad a baratowyd, dilynwch y camau canlynol.

  1. Clicio ‘Tabl data’ o’ch rhestr dasgau ar gyfer eich set ddata.
  2. Dewis a oes angen i chi:
    • ychwanegu data newydd yn unig
    • ychwanegu data newydd a diwygio data sydd yno yn barod
    • diwygio’r data sydd yno yn barod yn unig
    • newid y data presennol heb drin codau nodiadau mewn ffordd awtomatig
    • disodli’r holl ddata sydd yno yn barod
  3. Lanlwytho a gwirio eich tabl data diweddariad - os oes unrhyw broblemau gyda’ch tabl, bydd y system yn esbonio’r broblem a’r hyn y mae angen i chi ei wneud i’w drwsio
  4. Adolygu bod y diweddariadau’n gywir a chadarnhau’r diweddariad.

Metadata

I ddiweddaru unrhyw fetadata, cliciwch ar yr adran berthnasol o’ch rhestr dasgau ar gyfer eich set ddata.

Os bydd set ddata wedi stopio cael ei diweddaru’n rheolaidd, bydd angen i chi bennu mai’r ateb i’r cwestiwn ‘A fydd y set ddata hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd?’ yw ‘Na’.

Cyhoeddi

Pryd y dylid cyhoeddi’r set ddata

Nodwch y dyddiad a’r amser y dylid cyhoeddi’r set ddata a ddiweddarwyd. Yr amser cyhoeddi diofyn yw 9:30am; dim ond os bydd gwir angen nodi amser gwahanol y dylid newid hwn.

Cyfieithiadau

Os byddwch yn newid unrhyw rai o’r meysydd testun, bydd angen i chi ddarparu cyfieithiadau wedi’u diweddaru.

Dylech ddilyn yr un proses ag y byddwch yn ei dilyn er mwyn cyfieithu set ddata newydd.