Paratoi data: Diweddaru setiau data

Diweddaru gwerthoedd data

Os bydd angen i chi ychwanegu neu ddisodli gwerthoedd data mewn set ddata, dylech baratoi tablau data wedi’u diweddaru.

Dylai’r rhain fod yn yr un fformat â’r tabl data a lanlwythwyd yn wreiddiol ar gyfer y set ddata hon. Dylid defnyddio’r un colofnau a phenawdau colofnau.

Ychwanegu data newydd yn unig

Mae hyn yn golygu ychwanegu gwerthoedd ar gyfer data nad yw yn y set ddata ar hyn o bryd. Er enghraifft, gwerthoedd data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf. Dylai tabl data y diweddariad gynnwys y gwerthoedd data newydd yr ydych chi’n eu hychwanegu yn unig.

Rhesi enghreifftiol tabl data diweddariad ar gyfer bandiau treth gyngor, gan ychwanegu data newydd ar gyfer 2024/25:

CodArdalCodBlwyddynCodBandCodNodynMesur neu fath dataData
W060000012024/25A-11216.86
W060000012024/25A11014.05
W060000012024/25B11419.67
W060000012024/25C11622.48
W060000012024/25D11825.30

Sylwer mai enghraifft at ddibenion dangos yw hon, ac nid yw’n ddiweddariad go iawn.

Diwygio data

Mae hyn yn golygu disodli gwerthoedd data yn y set ddata bresennol gyda gwerthoedd diwygiedig. Efallai bod hyn oherwydd yr arferai gwerthoedd fod yn rhai amodol, neu mae angen eu cywiro. Dylai’r tabl wedi’i ddiweddaru gynnwys y gwerthoedd data yr ydych chi’n eu diwygio yn unig.

Rhesi enghreifftiol tabl data diweddariad ar gyfer bandiau treth gyngor, gan ddiwygio data ar gyfer 2022/23:

CodArdalCodBlwyddynCodBandCodNodynMesur neu fath dataData
W060000012022/23G13042.10
W060000012022/23H13650.60
W060000012022/23I14259.03
W060000022022/23A-11104.00
W060000022022/23A11324.80

Sylwer mai enghraifft at ddibenion dangos yw hon, ac nid yw’n ddiweddariad go iawn.

Trin codau nodiadau mewn ffordd awtomatig

Pan fyddwch yn diwygio gwerthoedd data yn SW3, bydd y system yn gwirio eich tabl data wedi’i ddiweddaru yn erbyn y data presennol. Ar gyfer yr holl werthoedd data sydd wedi newid, bydd y system yn ychwanegu cod nodiadau ‘r’ i’r golofn cod nodiadau yn awtomatig. Diben hyn yw helpu’r defnyddiwr i wybod os oes unrhyw werthoedd data wedi newid.

Yr unig eithriad i hyn yw pan fydd gwerthoedd data a nodwyd fel rhai amodol (p) neu ragolygol (f) yn flaenorol, wedi cael eu newid. Yn yr achosion hyn:

  • bydd y system yn gwaredu’r codau nodiadau 'p' ac 'f' blaenorol
  • ni fydd y system yn ychwanegu unrhyw godau nodiadau 'r' i’r gwerthoedd hyn

Mae hyn yn unol â’r dull a argymhellir gan StatsCymru ar gyfer ‘terfynu’ gwerthoedd data amodol neu ragolygol.

Fodd bynnag, efallai y bydd achosion lle y bydd angen newid gwerth amodol neu ragolygol gyda diweddariad, ond cadw ei label amodol neu ragolygol. Yn yr achosion hyn, dylech sicrhau bod y gwerthoedd data perthnasol yn cynnwys ‘p’ neu ‘f’ yn y golofn codau nodiadau yn eich tabl am-edrych wedi’i ddiweddaru. Yna, bydd y system yn cadw’r codau ‘p’ neu ‘f’ yn y tabl data sy’n bodoli eisoes.

Ychwanegu a diwygio data

Os bydd angen i chi ychwanegu gwerthoedd data newydd a diwygio gwerthoedd data sy’n bodoli eisoes, rhaid i chi gyfuno’r rhain mewn tabl diweddaru unigol.

Newid data heb drin codau nodiadau mewn ffordd awtomatig

Efallai y bydd amgylchiadau prin lle y bydd angen i chi newid gwerthoedd data heb drin codau nodiadau ‘r’, ‘p’ ac ‘f’ mewn ffordd awtomatig. Yn yr achosion hyn, dylech sicrhau bod y golofn codau nodiadau yn eich tabl data wedi’i ddiweddaru yn gywir ar gyfer yr hyn yr ydych chi’n dymuno ei ddangos i’r defnyddiwr. Hynny yw, os ydych chi’n dymuno:

  • ychwanegu cod nodiadau, sicrhau ei fod yn y golofn cod nodiadau
  • gwaredu cod nodiadau sy’n bodoli eisoes, sicrhau nad yw yn y golofn cod nodiadau

Pan fyddwch yn lanlwytho eich tabl am-edrych wedi’i ddiweddaru, bydd angen i chi ddewis ‘Newid data heb drin codau nodiadau mewn ffordd awtomatig'.

Gwaredu data

Dim ond os oes rheswm dilys ac ystadegol dros wneud hynny y dylech chi waredu gwerthoedd data. Ni allwch waredu rhesi cyfan o’ch set ddata.

I waredu gwerthoedd data, dylech ddilyn yr un broses â’r broses a ddilynir er mwyn diwygio data, ond gyda:

Gan ddibynnu ar y rheswm dros waredu, efallai y bydd angen ychwanegu esboniad i’r adran metadata ‘ansawdd ystadegol’.

Rhesi enghreifftiol tabl data diweddariad ar gyfer bandiau treth gyngor, gan waredu data ar gyfer band A treth gyngor cyn 2001/02:

CodArdalCodBlwyddynCodBandCodauNodiadauMesur neu fath dataData
W060000011996/97A-z1
W060000011997/98A-z1
W060000011998/99A-z1
W060000011999/00A-z1
W060000012000/01A-z1

Sylwer mai enghraifft at ddibenion dangos yw hon, ac nid yw’n ddiweddariad go iawn.

Disodli’r holl ddata presennol

Efallai y bydd amgylchiadau prin pan fydd angen i chi ddisodli’r holl ddata presennol. Mae’n bwysig iawn eich bod yn sicrhau:

  • bod rheswm dilys dros ddisodli’r holl ddata
  • bod y data yn y tabl data diweddariad yn gywir
  • na chollir data o’r set ddata sydd wedi cael ei chyhoeddi ar hyn o bryd (oni bai bod angen ei waredu am reswm dilys)

Diweddaru metadata

Gellir diweddaru unrhyw adran o’r metadata yn ôl yr angen. Gellir gwneud hyn os yw’r data ei hun yn cael ei ddiweddaru neu beidio. Yn ogystal, efallai y bydd angen esbonio pam bod y metadata wedi cael ei newid, yn yr adran berthnasol.

Diweddariadau nad ydynt yn bosibl ar hyn o bryd

Yn y system bresennol, ni allwch:

  • ychwanegu dimensiwn newydd i set ddata
  • dileu dimensiwn o set ddata