Defnyddio SC3: Diweddaru set ddata
Data
O’ch sgrin hafan, dewiswch y set ddata y mae angen i chi ei diweddaru. Ar y sgrin nesaf, dewiswch ‘Diweddaru’r set ddata hon’.
Gan ddefnyddio eich tabl data diweddariad a baratowyd, dilynwch y camau canlynol.
- Clicio ‘Tabl data’ o’ch rhestr dasgau ar gyfer eich set ddata.
- Dewis a oes angen i chi:
- ychwanegu data newydd yn unig
- ychwanegu data newydd a diwygio data sydd yno yn barod
- diwygio’r data sydd yno yn barod yn unig
- newid y data presennol heb drin codau nodiadau mewn ffordd awtomatig
- disodli’r holl ddata sydd yno yn barod
- Lanlwytho a gwirio eich tabl data diweddariad - os oes unrhyw broblemau gyda’ch tabl, bydd y system yn esbonio’r broblem a’r hyn y mae angen i chi ei wneud i’w drwsio
- Adolygu bod y diweddariadau’n gywir a chadarnhau’r diweddariad.
Metadata
I ddiweddaru unrhyw fetadata, cliciwch ar yr adran berthnasol o’ch rhestr dasgau ar gyfer eich set ddata.
Os bydd set ddata wedi stopio cael ei diweddaru’n rheolaidd, bydd angen i chi bennu mai’r ateb i’r cwestiwn ‘A fydd y set ddata hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd?’ yw ‘Na’.
Cyhoeddi
Pryd y dylid cyhoeddi’r set ddata
Nodwch y dyddiad a’r amser y dylid cyhoeddi’r set ddata a ddiweddarwyd. Yr amser cyhoeddi diofyn yw 9:30am; dim ond os bydd gwir angen nodi amser gwahanol y dylid newid hwn.
Cyfieithiadau
Os byddwch yn newid unrhyw rai o’r meysydd testun, bydd angen i chi ddarparu cyfieithiadau wedi’u diweddaru.
Dylech ddilyn yr un proses ag y byddwch yn ei dilyn er mwyn cyfieithu set ddata newydd.