Paratoi data: Setiau data newydd

Mae setiau data yn cynnwys set o ystadegau a’u metadata cysylltiedig. Caiff y set ddata ei hadeiladu yn SC3 fel ciwb data o dabl data a data cyfeirio neu am-edrych.

Tablau data

Ar gyfer setiau data newydd, bydd angen i chi gael tabl data. Yn ddelfrydol, dylai’r tabl fod mewn ffurf CSV ac mae’n rhaid iddo gynnwys colofnau ar gyfer:

Yn y canllaw hwn, byddwn yn defnyddio sefyllfa enghreifftiol data ar gyfer bandiau treth gyngor. Dyma resi enghreifftiol tabl data ar gyfer y sefyllfa hon:

CodArdalCodBlwyddynCodBandCodNodiadauMesurData
W06000001202425A-1256.88
W06000001202425Ax1
W06000001202425B1359.64
W06000001202425Ce1411.01
W06000001202425D1462.39

Fformat y ffeil

Y fformat a ffefrir ar gyfer ffeil yw CSV gyda:

  • gwerthoedd wedi’u gwahanu gyda chomas
  • penawdau yn y rhes gyntaf
  • " " yn cael eu defnyddio ar gyfer dyfynodau, yn ôl yr angen
  • colofnau mewn unrhyw drefn
  • gwerthoedd data rhifol – gall y rhain gynnwys pwyntiau degol a symbolau minws ond ni chânt gynnwys unrhyw nodau eraill fel comas neu arwyddion canran

Os bydd gwerth data ar ddim ar gael neu heb fod yn berthnasol, dylech:

  • adael y gell yn wag
  • nodi cod nodyn safonol yn y golofn codau nodiadau, gan nodi a yw'r gwerth data ar ddim ar gael (x) neu heb fod yn berthnasol (z)

Y fformat a ffefrir ar gyfer CSVs yw UTF-8, gan bod hwn yn gweithio’n well gydag unrhyw nodau arbennig a ddefnyddir. Dylai’r fformat hwn fod yn ddewis yn y feddalwedd yr ydych chi’n ei defnyddio er mwyn creu CSVs, ac fe allai fod dan ‘amgodio testun’ neu rywbeth tebyg. Yn Excel, mae 'CSV UTF-8' dan fformatau cyffredin yn newis 'Save as'.

Er mai CSVs yw’r fformat a argymhellir, gall y system dderbyn fformatau JSON, Parquet a Excel XLSX hefyd.

Penawdau

Dylai enwau penawdau colofnau fod yn ystyrlon, fel eich bod yn gwybod yr hyn y mae pob colofn yn ei gynnwys. Bydd hyn yn bwysig wrth lanlwytho eich CSV i SC3. Gallant gynnwys bylchau rhwng geiriau yn ôl y gofyn.

Ffeithiau anghyflawn neu ddyblyg

Mae ffaith yn gyfuniad unigryw o werthoedd dimensiynol mewn 1 rhes o'r tabl data. Er enghraifft, CodArdal W06000001, CodBlwyddyn 202425, CodBand A- a Mesur 1. Dim ond un gwerth data unigol sy'n gallu bod am bob ffaith unigryw.

Ni all y tabl data gynnwys ffeithiau anghyflawn. Rhaid llenwi pob ffaith ar gyfer pob dimensiwn, ac eithrio codau nodiadau a gwerthoedd data, y dylid eu llenwi mewn ffordd briodol.

Os byddwch yn lanlwytho tabl data gyda ffeithiau anghyflawn neu ddyblyg, bydd y system yn nodi pa ffeithiau y bydd angen eu gwaredu neu eu cywiro.”

Cyfansymiau a chyfartaleddau

Dylech gynnwys rhesi yn eich tabl data ar gyfer unrhyw gyfansymiau neu gyfartaleddau yr hoffech eu cynnwys gyda’r set ddata. Mae hyn yn cynnwys unrhyw is-gyfansymiau a chyfansymiau terfynol. Dylai’r rhesi gynnwys:

Yn ein henghraifft am dreth gyngor, mae’r dimensiwn CodArdal yn cyfeirio at awdurdodau lleol. Pe byddech yn dymuno cynnwys cyfanswm neu gyfartaledd ar gyfer Cymru gyfan, byddai angen i chi gynnwys rhes a fyddai’n cynnwys:

  • y cyfanswm neu’r cyfartaledd
  • y cod cyfeirio i Gymru [W92000004]
  • cod nodiadau ‘t’ neu 'a'

Os yw eich data yn cynnwys hierarchaethau lluosog, gallwch ddarparu cyfansymiau neu gyfartaleddau lluosog. Er enghraifft, cyfanswm ar gyfer pob rhanbarth economaidd a chyfanswm i Gymru.

Rhoi colofnau mewn trefn

Bydd trefn y colofnau yn eich ffeil tabl data yn effeithio ar drefn y tabl data y bydd defnyddwyr yn ei lawrlwytho. Bydd y drefn hon yn seiliedig ar y drefn ddidoli a ddiffinnir gan ddata cyfeirio pob dimensiwn. Yn ein henghraifft uchod gan ddefnyddio treth gyngor, byddai’r tabl data yn cael ei ddidoli yn gyntaf fesul awdurdod lleol (CodArdal), yna blwyddyn (CodBlwyddyn), yna band treth gyngor (CodBand), yna mesur.

Data cyfeirio

Pan fyddwch yn creu eich set ddata yn SC3, bydd angen i chi ddewis data cyfeirio ar gyfer pob dimensiwn yn eich tabl data. Yn ein tabl enghreifftiol, byddai hyn yn golygu dewis tablau am-edrych ar gyfer ‘CodArdal’ ac ar gyfer ‘CodBand’, a chadarnhau fformatau dyddiad ar gyfer ‘CodBlwyddyn’. Nid oes angen i chi ychwanegu tablau am-edrych ar gyfer nodiadau gwerthoedd data.

Data cyfeirio safonol

Bydd data cyfeirio safonol, a reolir yn ganolog, yn helpu:

  • sicrhau gwell cysondeb ar draws StatsCymru
  • safoni disgrifiadau Cymraeg a Saesneg
  • gwella defnyddioldeb i ddefnyddwyr data

Caiff tablau am-edrych safonol eu gweithredu ar hyn o bryd. Am nawr, dylech baratoi eich tablau am-edrych eich hun, gan ddefnyddio codau a disgrifiad cyffredin a ddefnyddir pan fo modd, gydag eithriadau posibl ar gyfer rhai dimensiynau sy’n cynnwys testun neu rifau.

Nid yw SC3 yn defnyddio tablau am-edrych ar gyfer dimensiynau sy’n cynnwys dyddiadau. Yn hytrach, ceir dull gweithredu safonol tuag at fformatio.

Fformatio dyddiadau

Pan fyddwch yn creu eich set ddata yn SC3, bydd angen i chi nodi’r fformatau dyddiadau yr ydych chi wedi’u defnyddio yn eich tabl data. Dim ond fformatau dyddiadau penodol y gall SC3 eu derbyn.

Pwyntiau penodol mewn amser

Er enghraifft, dyddiadau penodol pan gasglwyd gwerthoedd data.

Fformat yn y tabl dataEnghraifftSut y bydd yn ymddangos ar y wefan
DD/MM/YYYY01/01/20221 Ionawr 2022
DD-MM-YYYY01-01-20221 Ionawr 2022
YYYY-MM-DD2022-01-011 Ionawr 2022
YYYYMMDD202201011 Ionawr 2022

Cyfnodau amser

Er enghraifft, misoedd, chwarteri neu flynyddoedd y mae gwerthoedd data yn berthnasol iddynt.

Fformatau blwyddyn
Fformat yn y tabl dataEnghraifftSut y bydd yn ymddangos ar y wefan
YYYYYYYY202220232022-23
YYYY-YYYY2022-20232022-23
YYYY/YYYY2022/20232022/23
YYYYYY2022232022-23
YYYY-YY2022-232022-23
YYYY/YY2022/232022/23
YYYY20222022
Fformatau chwarter

Unrhyw rai o’r fformatau blwyddyn, wedi’u dilyn gan god chwarter.

Fformat chwarter yn y tabl dataEnghraifftSut y bydd yn ymddangos ar y wefan
Qx2022Ch1Ch1 2022
_Qx2022_Ch1Ch1 2022
-Qx2022-Ch1Ch1 2022
x20221Ch1 2022
_x2022_1Ch1 2022
-x2022-1Ch1 2022
Fformatau mis

Unrhyw rai o’r fformatau blwyddyn, wedi’u dilyn gan god mis.

Fformat mis yn y tabl dataEnghraifftSut y bydd yn ymddangos ar y wefan
MMM2022JanIonawr 2022
mMM2022m01Ionawr 2022
MM202201Ionawr 2022
Math blwyddyn

Bydd angen i chi wybod y math o flwyddyn y mae’r dimensiwn yn ei gynnwys hefyd, naill ai:

  • calendr (1 Ionawr i 31 Rhagfyr)
  • meteorolegol (1 Mawrth i 28 neu 29 Chwefror)
  • ariannol (1 Ebrill i 31 Mawrth)
  • treth (6 Ebrill i 5 Ebrill)
  • academaidd (1 Medi i 31 Awst)
  • arall (unrhyw ddyddiad cychwyn arall)

Ni all y system ymdopi â blynyddoedd treigl ar hyn o bryd. Caiff y canllawiau hyn eu diweddaru ar ôl ychwanegu'r swyddogaeth hon.

Os nad ydych chi'n gwybod y math o flwyddyn y mae'r dimensiwn yn ymwneud â hi, dylech gysylltu â'r casglwr data ar gyfer eich set ddata.

Cyfnodau lluosog yn yr un set ddata

Gall eich set ddata gynnwys data ar gyfer cyfnodau amser lluosog. Er enghraifft, gwerthoedd misol gyda chyfansymiau chwarterol a blynyddol.

Rhaid i chi ddefnyddio fformatio blwyddyn cyson ar gyfer yr holl gyfnodau amser sy’n bresennol yn y set ddata. Er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio ‘YYYY’ ar gyfer blynyddoedd, gallech ddefnyddio ‘YYYYQx’ ar gyfer chwarteri a 'YYYYMM' ar gyfer misoedd.

Cyfnodau ansafonol

Efallai y bydd amgylchiadau prin pan na fydd y ffurfiau safonol hyn yn briodol ar gyfer y data yn eich set ddata. Er enghraifft, os na fydd cyfnodau yn barhaus ac os byddant yn cynnwys rhannau o flynyddoedd penodol yn unig. Yn yr achosion hyn, dylech baratoi eich tablau am-edrych eich hun.

Tablau am-edrych

Ar gyfer dimensiynau nad ydynt yn cynnwys dyddiadau neu ddaearyddiaeth, dylech baratoi eich tablau am-edrych eich hun. Byddwch yn lanlwytho’r rhain i SC3.

Mae tabl am-edrych yn dweud wrth y system yr hyn y mae pob un o’r codau cyfeirio a ddefnyddir mewn dimensiwn perthnasol yn ei gynrychioli. Mae’n bwysig bod y codau cyfeirio yn y dimensiwn yn y tabl data yn cyfateb yn union â’r rhai yn y tabl am-edrych.

Yn ddelfrydol, dylai eich tabl am-edrych fod mewn fformat CSV ac yn un o’r fformatau canlynol.

Fformat 2-rhes (a ffefrir)

PennawdYr hyn y mae’r golofn yn ei gynnwysWastad yn ofynnol
codcyfCodau cyfeirioOes
disgrifiadDisgrifiadOes
iaithIaith a ddefnyddir, naill ai 'en' neu 'cy'Oes
hierarchaethDynodi os yw gwerth yn gysylltiedig â gwerthoedd eraill mewn ffordd hierarchaiddNac oes
trefnTrefn ddidoliNac oes
nodynNodiadauNac oes

Enghraifft o rhan o dabl am-edrych ar gyfer cod band treth:

codcyfdisgrifiadiaithtrefn
A-Tax band A-en1
A-Band treth A-cy1
ATax band Aen2
ABand treth Acy2
BTax band Ben3

Fformat rhes unigol

PennawdYr hyn y mae’r golofn yn ei chynnwysWastad yn ofynnol
codcyfCodau cyfeirioOes
disgrifiad_enDisgrifiad (Saesneg)Oes
disgrifiad_cyDisgrifiad (Cymraeg)Oes
hierarchaethDynodi os yw gwerth yn gysylltiedig â gwerthoedd eraill mewn ffordd hierarchaiddNac oes
trefnTrefn ddidoliNac oes
nodyn_enNodiadau (Saesneg)Nac oes
nodyn_cyNodiadau (Cymraeg)Nac oes

Enghraifft o rhan o dabl am-edrych ar gyfer cod band treth:

codcyfdisgrifiad_endisgrifiad_cytrefn
A-Tax band A-Band treth A-1
ATax band ABand treth A2
BTax band BBand treth B3
CTax band CBand treth C4
DTax band DBand treth D5

Penawdau colofnau

Mae’n bwysig bod y penawdau colofnau penodol hyn yn cael eu defnyddio.

Hierarchaethau

Defnyddiwch y golofn 'hierarchaeth' i ddynodi a yw gwerth dimensiwn yn is na gwerth arall mewn ffordd hierarchaidd. Er enghraifft, pe bai bandiau treth yn cael eu rhannu i is-fandiau megis 'A1', 'A2' ac 'A3', byddai'r golofn 'hierarchaeth' ar gyfer pob un o'r is-fandiau hyn yn cynnwys 'A'. Dim ond codau cyfeirio a ddefnyddir yng ngholofn 'codcyfeirio' y dylai'r golofn 'hierarchaeth' eu cynnwys.

Rhan enghreifftiol o dabl am-edrych am godau bandiau treth sydd â hierarchaeth 3-lefel:

codcyfdisgrifiad_endisgrifiad_cyhierarchaethtrefn
ATax band ABand treth A14
A1Tax band A1Band treth A1A15
A1aTax band A1aBand treth A1aA116
A1bTax band A1bBand treth A1bA117
A1cTax band A1cBand treth A1cA118

Nid oes cyfyngiad o ran sawl lefel y gall hierarchaeth eu cynnwys. Fodd bynnag, dim ond at un gwerth uwch ei ben yn yr hierarchaeth y gall gwerth dimensiwn ymwneud ag ef. Er enghraifft, ni fyddai modd i is-fand 'A1' eistedd dan 'A' ac 'A-'.

Os oes gennych chi hierarchaeth nad ydych yn gwybod sut i'w gweithredu, anfonwch e-bost at richard.davies3@gov.wales i ofyn am gymorth.

Disgrifiadau

Dylai disgrifiadau o’r holl werthoedd dimensiwn fod yn:

  • gryno ac esbonio’n glir yr hyn y mae’r gwerth dimensiwn yn ei gynrychioli
  • mewn llythrennau ar ffurf brawddeg, ac eithrio enwau priod, er enghraifft ‘Dosau a neilltuwyd i Gymru'
  • unigryw ac yn wahanol i’w gilydd
  • darparir yn Gymraeg ac yn Saesneg

Nodiadau tabl am-edrych

Gellir darparu nodiadau tabl am-edrych, ond nid ydynt yn cael eu dangos yn yr hyn y mae’r defnyddiwr yn ei weld ar hyn o bryd yn SC3. Os yw nodiadau yn cynnwys gwybodaeth bwysig, dylech sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei darparu yn yr adran metadata mwyaf priodol hefyd.

Dimensiynau sy'n cynnwys testun neu rifau lle nad oes gofyn cael tabl am-edrych

Nid oes gofyn cael tabl am-edrych os gellir defnyddio'r gwerthoedd dimensiwn a ddefnyddir yn y tabl data fel disgrifiadau yn uniongyrchol. Mae hyn yn wir dim ond:

  • os yw gwerthoedd dimensiwn yn cynnwys llythrennau, rhifau neu symbolau sydd yr un fath yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • os nad oes angen nodi trefn ddidoli
  • os nad oes angen hierarchaethau a nodiadau

Er enghraifft, yn ein henghraifft treth gyngor, os mai dim ond 'A', 'B' ac ati yr oedd angen i'r disgrifiadau fod, yn hytrach na 'Band treth A', 'Band treth B' ac ati. Neu fel enghraifft arall, os defnyddir yr oedran mewn blynyddoedd fel gwerthoedd dimensiwn, megis '18', '19' ac ati.

Enwau dimensiynau

Pan fyddwch yn ychwanegu data cyfeirio yn SC3, bydd angen i chi ychwanegu’r hyn yr ydych yn dymuno i’r dimensiwn gael ei alw ar yr ochr i ddefnyddwyr.

Dylai enwau dimensiynau fod yn:

  • gryno ac esbonio’n glir yr hyn y mae’r dimensiwn yn ei gynnwys
  • mewn llythrennau ar ffurf brawddeg, ac eithrio enwau priod, er enghraifft ‘Awdurdodau lleol’

Mathau data neu fesur

Mae mesur, neu fath data, yn dynodi’r hyn y mae’r gwerth data yn ei gynrychioli. Rhaid i chi gynnwys colofn ar gyfer hyn yn eich tabl data, hyd yn oed os yw eich set ddata yn cynnwys un math o fesur yn unig. Mae cynnwys mesurau yn helpu defnyddwyr i ddeall y data yn eich set ddata yn well.

Ar gyfer dimensiwn sy’n cynnwys mesurau, dylech baratoi eich tabl am-edrych eich hun. Byddwch yn lanlwytho hwn i SC3. Dylai fod yn yr un fformat â thablau am-edrych eraill, gyda’r colofnau ychwanegol canlynol:

PennawdYr hyn y mae’r golofn yn ei gynnwys
mathUnrhyw rai o’r canlynol:
  • cyfrif
  • canran
  • cyfradd
  • safle
  • rhifiadur
  • enwadur
  • gwerth mynegai
  • modd
  • canolrif
  • cymedr
  • gwyriad safonol
  • amrywiant
  • chwartel
  • cwintel
  • degradd
  • canradd
fformatUnrhyw rai o’r canlynol:
  • degol
  • arnawf
  • cyfanrif
  • hir
  • canran
  • llinyn
  • testun
  • dyddiad
  • dyddiadamser
  • amser
degolOs nodwyd 'degol' neu 'arnawf' ar gyfer 'fformat':
  • nodwch nifer y lleoedd degol i'w dangos
  • os na nodir unrhyw beth, caiff rhifau eu talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf

    Tabl am-edrych mesur enghreifftiol ar gyfer ein henghraifft treth gyngor:

    codcyfmathfformatdegoltrefndisgrifiad_endisgrifiad_cy
    1cyfrifdegol21Council tax in £Treth gyngor mewn £
    2canrancanran2% of median monthly salary% y cyflog misol canolrifol
    3saflecyfanrif3Rank of council tax bandSafle band treth gyngor

    Sylwer mai enghraifft yw hon at ddibenion arddangos, ac nad yw’n dabl am-edrych go iawn ar gyfer data treth gyngor.

    Dylai disgrifiadau ddiffinio’r hyn y mae gwerth y data yn ei gynrychioli yn glir. Dylai hyn gynnwys:

    • y math o fesur, megis ‘nifer y’ neu ‘safle’
    • y peth y mae’r mesur yn ei gynrychioli, megis ‘plant’ neu ‘fusnesau’

    Er enghraifft, ‘Nifer y plant a anwyd’ neu ‘Safle o ran perfformiad busnes’. Dylid geirio’r disgrifiad o’r data mewn ffordd sy’n peri i bob rhes o’r tabl data wneud synnwyr fel y mae defnyddiwr yn ei ‘ddarllen’. Er enghraifft, “Ganwyd 3,855 o blant yng Nghaerdydd yn 2021”.

    Sylwer bod y gwerthoedd data yn y tabl data yn dangos rhifau yn unig. Felly, er enghraifft, ar gyfer canran o ‘35%’, dylai’r gwerth data fod yn ‘35’ a dylai’r disgrifiad o’r mesur nodi’n glir mai canran ydyw, megis ‘% o’r holl blant yng Nghymru’.

    Nodiadau

    Nodiadau gwerthoedd data (troednodiadau a data coll yn flaenorol)

    Dim ond os bydd angen gwneud hynny er mwyn deall y data y dylech chi ychwanegu nodyn i werth data penodol. Fodd bynnag, rhaid i chi gynnwys colofn ar gyfer codau nodiadau yn eich tabl data, hyd yn oed os nad oes gennych chi unrhyw godau nodiadau i’w cynnwys.

    Mae SC3 yn defnyddio codau nodiadau llaw-fer, gydag esboniadau safonol, sy’n dilyn safonau’r sector cyhoeddus yn agos. Nid yw’r codau yn gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach.

    Llaw-ferYstyrDefnydd
    aCyfartaleddPan fydd gwerth data yn gyfartaledd gwerthoedd eraill
    bCyfres toriad amserPan fydd toriad mewn cyfres data sy’n golygu na ellir cymharu data cyn y toriad gyda data ar ôl y toriad yn uniongyrchol
    cGwybodaeth gyfrinacholEr enghraifft, os bydd gwerth data wedi cael ei atal oherwydd y gallech chi adnabod manylion am bobl penodol o’r data. Sylwer nad oes unrhyw ffordd yn SC3 i guddio nac atal gwerthoedd, felly rhaid gwneud hyn yn eich tabl data.
    eAmcangyfrifedigPan fydd gwerth data yn werth amcangyfrifedig
    fRhagolwgPan fydd gwerth data yn werth yn y dyfodol wedi’i gyfrifo yn hytrach na gwerth wedi’i arsylwi
    kFfigwr iselFfigwr isel sy’n ymddangos fel sero ar ôl talgrynnu
    nsDdim yn arwyddocaol yn ystadegolPan na ellir pennu a yw gwerth data yn ddibynadwy neu beidio
    pDros droPan na fydd gwerth data wedi cael ei gwblhau eto, neu disgwylir iddo gael ei newid
    rDiwygiedigPan fydd gwerth data wedi cael ei ddiwygio ers y cafodd ei gyhoeddi yn gyntaf
    sYn arwyddocaol yn ystadegol ar lefel 5% neu 0.05Pan fydd y siawns bod gwerth data yn annibynadwy yn llai na 5%
    ssYn arwyddocaol yn ystadegol ar lefel 1% neu 0.01Pan fydd y siawns bod gwerth data yn annibynadwy yn llai nag 1%
    sssYn arwyddocaol yn ystadegol ar lefel 0.1% neu 0.001Pan fydd y siawns bod gwerth data yn annibynadwy yn llai na 0.1%
    tCyfanswmPan fydd gwerth data yn gyfanswm gwerthoedd eraill
    uDibynadwyedd iselPan fydd ansawdd ystadegol isel i werth data
    xDdim ar gaelEr enghraifft, pan na chaiff gwerth data ei gasglu mewn rhanbarth
    zHeb fod yn berthnasolEr enghraifft, mewn tablau cyflogaeth pan na ellir cyflogi pobl dan 16 oed yn gyfreithlon

    Os bydd angen i chi ychwanegu codau nodiadau lluosog i un gwerth data, dylid gwahanu’r rhain gan ddefnyddio coma, er enghraifft ‘p,f’.

    Dylid darparu unrhyw esboniadau wedi’u haddasu yr ydych chi’n teimlo eu bod yn angenrheidiol er mwyn egluro unrhyw godau nodiadau, yn yr adran metadata mwyaf priodol. Er enghraifft, os bydd angen i chi esbonio rhesymau lluosog pam bod gwerthoedd data wedi cael eu hatal.

    Nodiadau eraill

    Dylid darparu’r holl nodiadau eraill am ddimensiynau neu’r set ddata yn yr adran metadata mwyaf priodol.

    Metadata

    Cyn i chi greu set ddata newydd yn SC3, dylech baratoi’r holl fetadata cysylltiedig y bydd ei angen arnoch. Dylech ddarparu hwn i gyd yn yr un iaith. Dylai hyn fod ym mha bynnag iaith y byddwch yn ei defnyddio pan fyddwch yn defnyddio SC3, sef Cymraeg neu Saesneg. Caiff cyfieithiadau metadata i’r iaith arall eu prosesu gyda’r holl gyfieithiadau eraill.

    Rhestrau bwled

    Gallwch ddefnyddio pwyntiau bwled er mwyn helpu i gyflwyno cynnwys, yn ôl yr angen.

    Dylech nodi seren wrth bwyntiau bwled a bwlch ar y dechrau. Er enghraifft:

    '* testun i ymddangos fel pwynt bwled'

    Bydd y system yn creu rhestrau o’r rhain a fydd yn defnyddio pwyntiau bwled cylchol.

    Dylech:

    • gadw at un frawddeg fesul bwled
    • peidio gorffen pwyntiau bwled gydag atalnodau neu gysyllteiriau fel ‘neu’
    • ceisio defnyddio gair gwahanol ar ddechrau pob pwynt bwled

    Os ydych chi’n defnyddio llinell arweiniol i’ch rhestr pwyntiau bwled, dylai pob pwynt bwled ffurfio brawddeg gyflawn gyda’r linell arweiniol. Mae’r rhestr pwyntiau bwled uchod yn dangos hyn.

    Dolenni

    Dylech ddarparu dolenni i adroddiadau cysylltiedig yn yr adran adroddiadau cysylltiedig pwrpasol. Dim ond yw hynny’n bwysig er mwyn deall y set ddata yn well y dylid cynnwys dolen mewn unrhyw rai o’r adrannau metadata sy’n seiliedig ar destun.

    Os bydd angen i chi gynnwys dolen, dylech sicrhau eich bod yn eu defnyddio mewn ffordd briodol.

    Dylech nodi dolenni gyda thestun y ddolen mewn cromfachau sgwâr, a ddilynir yn uniongyrchol gan URL y ddolen mewn cromfachau crwn. Er enghraifft:

    '[Llywodraeth Cymru](https://www.llyw.cymru)'

    Bydd y system yn creu dolen y bydd modd clicio arni, sef 'Llywodraeth Cymru'. Rhaid i’r URL gychwyn gyda naill ai 'https://' neu 'http://'.

    Dylai’r testun yn y ddolen:

    • nodi’n glir yr hyn y bydd y defnyddiwr yn ei gael o’r ddolen
    • osgoi cyfarwyddiadau fel “cliciwch yma” neu “i ddarganfod mwy”
    • bod yn hirach nag 1 gair, ond nid yn frawddeg lawn
    • ffurfio rhan o frawddeg, nid bod yn rhan o restr dolenni

    Adrannau metadata

    Mae’r canlynol yn cynrychioli’r holl fetadata y bydd angen i chi ei ddarparu.

    Teitl

    Enw byr, disgrifiadol ac unigryw ar gyfer y set ddata ar gyfer gwefan StatsCymru. Bydd y system yn dweud wrthych os byddwch yn nodi teitl sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan set ddata fyw, wedi’i chyhoeddi

    Crynodeb o set ddata a newidynnau

    Mae hyn yn esbonio'r hyn y mae'r set ddata yn ymwneud ag ef a'r hyn y mae'n ei ddangos. Dylai:

    • ddefnyddio brawddegau byr, syml
    • diffiniwch a disgrifiwch y newidynnau (dimensiynau) a ddefnyddiwyd
    • heb fod yn hirach na 2-3 paragraff yn ddelfrydol
    • peidio cynnwys unrhyw beth sy'n ymwneud â chasglu data neu ansawdd data – dylai hwn fod yn yr adran berthnasol yn lle hynny

    Cyfrifo neu gasglu data

    Mewn brawddegau byr a syml, esboniwch naill ai:

    • y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gasglu’r data
    • y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r data
    • y ddau uchod

    Ar gyfer casglu data, ceisiwch gynnwys:

    • enwau penodol a mathau o gasgliadau data a ddefnyddiwyd, er enghraifft “Ffurflen HO 13" yn lle "arolwg", a pham y defnyddiwyd y rhain
    • digon o wybodaeth er mwyn i ddefnyddwyr allu mynd ati i ddarganfod mwy am y technegau casglu penodol a ddefnyddiwyd

    Ar gyfer cyfrifo data, ceisiwch gynnwys:

    • a oes unrhyw dechnegau dadansoddi data wedi cael eu defnyddio, megis rhagfynegi neu raddio
    • a oes safon a gydnabyddir yn eang wedi cael ei defnyddio, neu un a ddatblygwyd gan y cyhoeddwr

    Ansawdd ystadegol

    Mewn brawddegau byr a syml, esboniwch unrhyw faterion sy'n cael effaith arwyddocaol ar y data. Pan fo hynny'n berthnasol, ceisiwch gynnwys unrhyw:

    • fesurau meintiol lle y ceir ansicrwydd
    • effaith unrhyw rai o'r ffynonellau data neu'r technegau dadansoddi a ddefnyddiwyd
    • esboniadau sy'n angenrheidiol er mwyn egluro unrhyw godau nodyn gwerth data a ddefnyddiwyd

    Dylai'r adran hon gynnwys mwy na 'Gweler yr adroddiad ansawdd ystadegol'. Os yw ar gael, gallwch gynnwys crynodeb lefel uchel o’r adroddiad ansawdd ystadegol. Dylech ychwanegu dolen i’r adroddiad yn yr adran ‘Adroddiadau cysylltiedig’, nid fel dolen yma.

    Talgrynnu wedi’i wneud

    Mae’r adran ansawdd ystadegol yn cynnwys is-adran hefyd er mwyn dynodi a oes unrhyw waith talgrynnu wedi cael ei wneud. Os oes, esboniwch hynny mewn brawddegau byr a syml.

    Ffynonellau data

    Rhennir hwn yn ddarparwyr data a ffynonellau data penodol. Darparwyr data yw'r sefydliadau sy'n cynnig mynediad i'r data yr ydych yn ei ddefnyddio i greu eich setiau data. Megis y 'Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)'. Dylai'r darparwr data ddweud wrthych beth yw ffynhonnell benodol y data, megis 'Cyfrifiad 2021'.

    Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn gwybod darparwr y data yn unig, ac nid ffynhonnell benodol gan y darparwr hwnnw. Er enghraifft, ‘Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol (HBSC)’.

    Gallwch ychwanegu ffynonellau lluosog yn ôl y gofyn.

    Caiff rhestr y darparwyr data a’r ffynonellau ei rheoli yn ganolog. Os bydd angen i chi ychwanegu darparwr data neu ffynhonnell i’r rhestr, bydd angen i chi:

    • anfon e-bost at StatsWales@llyw.cymru
    • nodi enw’r darparwr data a’r ffynhonnell yn Gymraeg ac yn Saesneg

    Byddwch yn cael eich hysbysu ar ôl i’r darparwr data a’r ffynhonnell gael eu hychwanegu i’r rhestr. Yna, byddwch yn gallu eu dewis yn SC3.

    Adroddiadau cysylltiedig

    Dylech ddarparu dolenni i unrhyw adroddiadau cysylltiedig, y gallent gynnwys:

    • ystadegau a datganiadau i’r wasg LLYW.CYMRU
    • adroddiadau ansawdd ystadegol
    • gwaith cysylltiedig arall

    Bydd angen i chi ddarparu URL yr adroddiad, a thestun y ddolen a fydd yn ymddangos ar y dudalen we. Dylai testun y ddolen fod yn deitl neu’n ddisgrifiad byr o’r adroddiad, nid yr URL. Dylai’r URL ddechrau gyda naill ai 'https://' or 'http://'.

    Os oes gwahanol URLs ar gyfer yr adroddiad mewn gwahanol ieithoedd, dylech ddarparu’r ddau URL. Dylai testun y ddolen nodi’n glir ym mha iaith y mae adroddiad y ddolen ynddi. Er enghraifft, efallai y byddwch yn ychwanegu’r ddwy ddolen hon:

    • GOV.WALES statistics and research releases (English)
    • ystadegau a datganiadau ymchwil LLYW.CYMRU (Cymraeg)

    Pa mor aml y caiff y set ddata ei diweddaru

    Nodwch a fydd y set ddata yn cael ei diweddaru’n rheolaidd neu beidio - naill ai oherwydd ei fod yn ddata untro neu os yw’r gwaith o’i ddiweddaru wedi stopio. Gallwch nodi’r cyfnod rhwng diweddariadau mewn diwrnodau, wythnosau, misoedd, chwarteri neu flynyddoedd.

    Dynodiad

    Ceir gwahanol fathau o ddynodiadau ystadegau. Mae diffiniadau’r rhain fel a ganlyn:

    DynodiadYr hyn y mae’n ei olygu
    Ystadegau swyddogolYstadegau sy’n cael eu creu gan gyrff y Goron a sefydliadau eraill a restrir mewn Gorchymyn Ystadegau Swyddogol, ar ran llywodraeth y DU neu weinyddiaethau datganoledig
    Ystadegau swyddogol achrededig (Ystadegau Gwladol yn flaenorol)Ystadegau swyddogol y mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) wedi eu hadolygu’n annibynnol a chadarnhau eu bod yn cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth
    Ystadegau swyddogol mewn datblygiad (ystadegau arbrofol yn flaenorol)Ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu; efallai eu bod yn ystadegau newydd neu sy’n bodoli eisoes, a byddant yn cael eu profi gyda defnyddwyr, yn unol â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth
    Gwybodaeth reolaetholData gweithredol sy'n cynnig tryloywder am weithgarwch sefydliad
    Dim dynodiadUnrhyw ystadegau eraill

    Pynciau perthnasol

    Ceir 13 pwnc lefel uchel, y mae gan y rhan fwyaf ohonynt bynciau eilaidd. Mae tag pwnc unigol yn cynnwys ‘lefel uchel + pwnc eilaidd’. Yr unig eithriadau yw tagiau pwnc ‘Twristiaeth’ a’r ‘Iaith Gymraeg’, sy’n rhai lefel uchel yn unig.

    Er enghraifft, gallai set ddata fod wedi cael ei thagio â thag pwnc unigol ‘Yr amgylchedd, ynni ac amaethyddiaeth: Ffermio’. Neu fe allai fod wedi cael ei thagio ag ail dag pwnc fel ‘Busnes, yr economi a’r farchnad lafur: Busnes’. Dylech ddewis cymaint o dagiau pwnc ag sy’n berthnasol i’r set ddata.

    Bydd y detholiad hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr leoli a nodi setiau data sydd o ddiddordeb iddynt yn haws. Mae’n bwysig ystyried y gwahanol ffyrdd y gall defnyddwyr gategoreiddio’r hyn y mae set ddata yn ei chynnwys.

    Busnes, yr economi a’r farchnad lafur

    • Busnes
    • Mynegeion economaidd
    • Cyflogaeth
    • Incwm gwario gros aelwydydd
    • Gwerth ychwanegol gros
    • Ymchwil a datblygu

    Trosedd, tân ac achub

    • Trosedd a chyfiawnder
    • Digwyddiadau tân ac achub
    • Gwasanaethau tân
    • Yr Heddlu

    Addysg a hyfforddiant

    • Prentisiaethau
    • Addysg bellach
    • Addysg uwch
    • Dysgu gydol oes
    • Disgyblion
    • Ysgolion
    • Cymorth i fyfyrwyr
    • Athrawon a staff cymorth
    • Gwaith ieuenctid

    Yr amgylchedd, ynni ac amaethyddiaeth

    • Ansawdd aer
    • Ynni
    • Ffermio
    • Llifogydd
    • Tipio anghyfreithlon
    • Nwyon tŷ gwydr
    • Tir
    • Rheoli gwastraff

    Cyllid a threth

    • Cyfalaf
    • Treth gyngor
    • Treth trafodiadau tir
    • Treth gwarediadau tirlenwi
    • Ardrethi annomestig (ardrethi busnes)
    • Refeniw
    • Setliad

    Iechyd a gofal cymdeithasol

    • Gwasanaethau ambiwlans
    • Plant
    • Coronafeirws (COVID-19)
    • Gwasanaethau deintyddol
    • Cyllid iechyd
    • Gweithgarwch ysbytai a lleoliadau gofal eraill
    • Meddygaeth deulu
    • Mamolaeth, genedigaethau a beichiogi
    • Iechyd meddwl
    • Perfformiad ac amseroedd aros
    • Gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol
    • Staff
    • Gofal cymdeithasol a gofal dydd
    • Gwasanaethau cymdeithasol
    • Camddefnyddio sylweddau

    Tai

    • Tai fforddiadwy
    • Dymchweliadau
    • Grantiau cyfleusterau i’r anabl
    • Peryglon, trwyddedau ac ansawdd tai
    • Help i brynu
    • Digartrefedd
    • Niferoedd aelwydydd
    • Gwella tai
    • Stoc tai a’r angen
    • Adeiladu tai newydd
    • Meddiannau a throi allan
    • Rhenti yn y sector preifat
    • Tai cymdeithasol
    • Cyfrif carafannau teithwyr

    Pobl, hunaniaeth a chydraddoldeb

    • Oedran
    • Anabledd
      Ethnigrwydd
    • Hunaniaeth rhywedd
    • Iaith
    • Statws priodasol
    • Mudo
    • Hunaniaeth genedlaethol
    • Poblogaeth
    • Beichiogrwydd a mamolaeth
    • Crefydd
    • Rhyw
    • Cyfeiriadedd rhywiol
    • Statws cymdeithasol-economaidd

    Tlodi

    • Cymunedau yn Gyntaf
    • Amdddifadedd
    • Cronfa cymorth dewisol
    • Tlodi incwm

    Twristiaeth

    Trafnidiaeth

    • Awyr
    • Rheilffyrdd
    • Ffyrdd
    • Môr

    Llywodraeth leol a Chymru

    • Cofrestr etholiadol
    • Gweithlu’r llywodraeth
    • Perfformiad awdurdod lleol
    • Etholaethau’r Senedd

    Yr Iaith Gymraeg