Manylion am gwcis ar StatsCymru
Rhestru'r cwcis ar StatsCymru ac yn esbonio eu pwrpas.
Defnydd o gwcis gan StatsCymru
Ffeiliau testun bach yw cwcis y mae’r gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well ac yn rhoi gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis iaith er mwyn gwybod ym mha iaith yr hoffech weld y wefan, rydym hefyd yn defnyddio cwcis Google Analytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan, gallwn ei gwneud yn haws i'w defnyddio a chynnig cynnwys sy’n diwallu anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth y mae StatsCymru yn ei chasglu yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, y porwr a'r system weithredu. Ni chaiff y data eu defnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol. Dyma’r cwcis rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan:
| Cwci | Enw | Diben | Yn dod i ben |
|---|---|---|---|
| Google Analytics | _ga | Defnyddir y cwci hwn i ddarganfod sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i'n helpu i wella'r safle. Mae'r cwci yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr â'r safle, a ydynt wedi ymweld o'r blaen a'r tudalennau y maent yn ymweld â nhw. | 2 flynedd |
| Azure Front Door | ASLBSA | Mae'r cwci hwn yn helpu Microsoft Azure i lywio'ch sesiwn i'r gweinydd gefn cywir | Sesiwn |
| Iaith | lang | Mae'r cwci hwn yn gosod eich dewisiadau iaith ar gyfer y safle fel y gwelwch iaith o'ch dewis wrth bori'r safle | 2 flynedd |
| Dewisiadau cwcis | cookiePref | Mae'r cwci hwn yn storio eich dewisiadau cydsynio ar gyfer cwcis (gan gynnwys a yw cwcis mesur yn cael eu caniatáu) a ph'un ai i ddangos y faner cwcis | 1 flwyddyn |
| Baneri nodweddion | features | Mae'r cwci hwn yn storio baneri nodweddion sydd wedi'u galluogi (ar lwyfannu/cynhyrchu yn unig) fel bod rhagolwg nodweddion yn aros yn weithredol heb orfod defnyddio'r paramedr ymholiad ar bob cais | 24 awr |
| Cwci Sesiwn | statswales.frontend | Mae'r cwci hwn yn cynnwys gwybodaeth sesiwn amrywiol i hwyluso'ch defnydd o'r safle | Gellir ei ffurfweddu (24 awr yn ddiofyn) |
Mae modd rheoli rhywfaint ar gwcis drwy osodiadau eich porwr. I ddysgu rhagor am gwcis a sut i’w rheoli (ar all about cookies).
Pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu gennym?
Rydym yn defnyddio Google Analytics i helpu monitro gweithgaredd defnyddwyr, ac i nodi ble gellid gwneud gwelliannau i'r safle. Nid ydym yn casglu unrhyw ddata personol (fel eich enw neu'ch cyfeiriad) fyddai'n golygu ein bod yn gallu eich adnabod chi.
Mae cwcis Google Analytics yn wasanaeth ar y we a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’) ac sy'n helpu casglu a dadansoddi gweithgarwch defnyddwyr. Bydd y wybodaeth a gesglir am eich defnydd o'r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) yn cael eu trosglwyddo i, ac yn cael ei storio ar weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau. Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mholisi preifatrwydd Google, a Thelerau Gwasanaeth Google.
Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon i greu adroddiadau gweithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Gall Google hefyd drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo gofyn yn gyfreithiol, neu lle bod trydydd partïon yn prosesu'r wybodaeth hon ar ran Google.
Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a ddaliwyd yn flaenorol. Gallwch wrthod y defnydd o cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Nodwch, os caiff cwcis eu hanalluogi, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio'r wefan yn llawn. Drwy ddefnyddio'r wefan yma, rydych yn cydsynio gall Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac at y dibenion a nodir uchod.